Mae Rondo Media yn ymfalchïo

yn ei chynyrchiadau drama safonol

Mae’r gyfres Rownd a Rownd (S4C) bellach yn ei phedwaredd tymor ar hugain ac wedi dathlu ei milfed pennod nôl yn Ionawr 2014. Mae’r gyfres a enwebwyd am wobr Kidscreen bellach wedi sefydlu ei hun yn un o gonglfeini amserlen S4C. Mae The Indian Doctor (BBC One/ dosbarthu rhyngwladol gan Content Media) yn ddrama gyda Sanjeev Bhaskar yn serennu fel doctor Indiaidd o ddysg sydd, wedi ei ddenu gan addewid yr NHS a Llundain bywiog y ‘60au, yn canfod ei hun mewn meddygfa pentref gloafol yn Ne Cymru.

Mae The Gospel of Us yn addasiad ffilm o’r digwyddiad theatr arloesol gyda Michael Sheen.  Perfformiwyd digwyddiad theatraidd cyfoes Passion ar strydoedd Port Talbot gyda phobl leol yn gast, criw ac arwyr. Mae Gwlad yr Astra Gwyn (S4C), enillydd gwobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, wedi ei gosod yn gyfan gwbl mewn tacsi, gan greu “byd” cyfan y tu mewn i gaban ble mae byrhoedledd nos Sadwrn yn cael ei bortreadu gan ymddangosiadau sydyn myrdd o gymeriadau a arweinir gan Trefor (Rhodri Meilir), y gyrrwr tacsi hygoelus.