Mae Rondo yn darparu

cannoedd o oriau o sylw

chwaraeon y flwyddyn.

Dros 30 mlynedd o brofiad cynhyrchu rhaglenni pêl-droed ynghyd a chynnwys digidol arloesol i S4C, mae profiad Rondo o gynhyrchu pêl-droed rhyngwladol a domestig i raglenni Sgorio yn cynnwys darlledu pêl-droed byw mor bell ac agos â Reykjavik, Vaduz, Podgorica, Helsinki a Hwlffordd!

Ym mis Medi 2018 cyhoeddodd S4C gytundeb arbennig Sgorio i ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro 2020  –  16 o gemau byw.