Oes gennych chi atgofion yn ymwneud â Phont Britannia, yn enwedig y tân yn 1970 a’r ailadeiladu? Oes gennych chi unrhyw ffilmiau cartref o’r cyfnod?
Mae Rondo yn chwilio am ffilmiau cartref o Bont Britannia, Pont Menai a’r ardaloedd cyfagos o’r 1960au hyd heddiw. Gallai’r lluniau fod o gychod ar y culfor, lluniau o’r tân, yr ailadeiladu neu ddiwrnod agor y lôn newydd dros y bont. Unrhyw beth sy’n rhoi teimlad o le ac amser. Mae hon ar gyfer rhaglen ddogfen ar gyfer S4C a’r BBC sy’n dathlu hanes Pont Britannia.
Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn siarad â phobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r bont mewn unrhyw ffordd dros y blynyddoedd, yn enwedig llygad-dystion i’r tân a phobl a fu’n rhan o’r ailadeiladu.
Os hoffech chi rannu’ch stori, neu os oes gennych chi luniau neu fideo, cysylltwch â ni:
(01286) 675722