Darllediad o ddigwyddiad Nadoligaidd poblogaidd S4C sy’n cael ei drefnu ar y cyd gyda’r Daily Post ac yn cael ei gynnal eleni yn Theatr Venue Cymru, Llandudno ar nos Sul Rhagfyr y 16eg – mae’r digwyddiad wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer cartrefi plant Ty Gobaith a Hope House. Mae’n gyfle i dathlu’r Nadolig gydag adloniant a charolau diri, ac i gynnig llwyfan i dalentau perfformio Cymru sydd wedi serennu eleni mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau a digwyddiadau.
Nos Iau, Rhagfyr 20, 21.30 S4C
1 x 60″