Rydyn ni’n chwilio am sêr ifanc i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ganu sy’n cynnig cyfle unigryw i gynrychioli Cymru yn un o gystadlaethau canu mwya’r byd i bobol ifanc – sef y Junior Eurovision Song Contest 2019 yn Gliwice, Gwlad Pwyl.

Mae croeso i unigolion neu grwpiau (hyd at 6 aelod) i gystadlu, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un rhwng 9 a 14 mlwydd oed ar y 24ain o Dachwedd, 2019.

Bydd angen canu yn y Gymraeg os ydych chi’n cyrraedd y 12 olaf OND bydd LOT o help ar gael ar hyd y ffordd.

Rhagor o wybodaeth: s4c.cymru/junioreurovision