Heddiw, cyhoeddodd S4C a chwmni teledu Rondo fanylion cystadleuaeth Côr Cymru 2024.

Gyda gwobr ariannol o £4,000 a’r clod o ennill teitl Côr Cymru, nod prif gystadleuaeth gorawl Cymru ers y cychwyn yw cynnal a chodi safonau corawl Gwlad y Gân.

Mae ‘na bump categori yn y gystadleuaeth – corau plant, corau ieuenctid, corau cymysg, corau lleisiau unfath a chorau sioe.

Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis hyd at bedwar côr ymhob categori i berfformio yn y rowndiau cyn-derfynol ym mis Chwefror 2024. Mae pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn derbyn £500 gyda enillydd y categori yn ennill gwobr ychwanegol o £1,000.

Bydd y pump côr gorau o’r rowndiau cyn-derfynol, ym marn y beirniaid rhyngwladol, yn cael eu dewis i berfformio yn y ffeinal fawr ar Fai 12ed yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac yn fyw ar S4C.

Bydd gwobr i’r arweinydd gorau a gwobr am y perfformiad gorau gan gôr na fydd yn cyrraedd y ffeinal.

Amodau:

Côr Cymru 2024 Amodau Cymraeg

Ffurflen Gais:

Ffurflen Gais Côr Cymru 2024