Heddiw, cyhoeddodd S4C a chwmni teledu Rondo fanylion cystadleuaeth Côr Cymru 2022.
Dyma’r degfed tro i brif gystadleuaeth gorawl Cymru gael ei chynnal, ac ers y cychwyn yn 2003, nod y gystadleuaeth yw cynnal a chodi safonau corawl Gwlad y Gân.
Mae ‘na bump categori yn y gystadleuaeth – corau plant, corau ieuenctid, corau cymysg, corau lleisiau unfath a chorau sioe.
Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis hyd at bedwar côr ymhob categori i berfformio yn y rowndiau cyn-derfynol ym mis Chwefror 2022. Mae pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn derbyn £500 gyda enillydd y categori yn ennill £1,500.
Bydd y pump côr gorau o’r rowndiau cyn-derfynol, ym marn y beirniaid rhyngwladol, yn cael eu dewis i berfformio yn y ffeinal fawr ar Ebrill 3ydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac yn fyw ar S4C.
Yn ogystal â ennill teitl Côr Cymru 2022 mae gwobr ariannol o £4,000 i’r côr buddugol. Bydd gwobr i’r arweinydd gorau a gwobr am y perfformiad gorau gan gôr na fydd yn cyrraedd y ffeinal.
Mae S4C hefyd yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth Côr Cymru Cynradd 2022.
Amodau:
Ffurflen Gais: