Yn y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd, bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen yn croesi i Ynys Enlli er mwyn mynd ar drywydd rhai o straeon difyr a chudd yr ynys. O ddarn mor fach o dir, mae’n syndod faint o hanesion sydd i’w cael yma o’r Mynaich i’r Môr-ladron i’r Brenhinoedd. Yn ogystal â’r ffermwyr, pysgotwyr a chychwyr, byddwn yn cyfarfod y saer sy’n sicrhau fod y gorffennol yn goroesi ac yn cael cip ar yr 20,000 o Ddrycin Manaw sy’n ymweld â’r ynys yn flynyddol.

Nos Sul, Ionawr 6, 20.00 S4C

8 x 60″ (Cyfres 2)