Yn y rhaglen ddogfen arbennig hon sy’n cael ei darlledu yn ystod Ionawr Sych 2020, Ffion Dafis sy’n mynd ar siwrne bersonol i annog sgwrs agored am ein perthynas ag alcohol. Bydd Ffion, wrth godi drych ar ei hagwedd a’i pherthynas ei hunan a’r cyffur, yn holi cwestiynau ehangach am berthynas ddinistriol cymdeithas ag alcohol.

Nos Sul, Ionawr 19, 21.00 S4C