Mae’r cwmni yn gynhyrchydd balch nifer o raglenni dogfen pwerus gan gynnwys My Tattoo Addiction (Channel 4/ gwerthiant rhyngwladol BBC Worldwide); astudiaeth o bobl sy’n mynd o dan y nodwydd sy’n gadael llygaid y gwyliwr yn dyfrio ar brydiau! Enillydd Bafta Y Trên i Ravensbrück; taith emosiynol y teulu Gruffydd o Gymru i’r Almaen i ddysgu mwy am ddioddefaint y teulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Malcolm Allen: Un Cyfle Arall; rhaglen ddogfen llawn emosiwn gan un o bêl-droedwyr mwyaf talentog Cymru am ei frwydr gydag alcohol.
Cynhyrchydd balch o
raglenni dogfen
pwerus a chraff
Gohebwyr: Wyre Davies gyda’r gohebydd BBC yn mynd ar daith i ddysgu mwy am ei dad-cu a fu bron a chael ei ladd mewn llongddrylliad dramatig ger arfordir de Chile. Hillsborough: Yr Hunllef Hir; stori ddirdynol trychineb Hillsborough, Sheffield lle bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl mewn gêm bêl-droed ar y 15fed o Ebrill 1989. Cipiodd y rhaglen wobr arbennig ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd Llanelli 2018.