Roedd hi’n wych gweld sylw i un o gyfresi Rondo mewn gŵyl ryngwladol nodedig dros y penwythnos. Un o themâu Gŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Galway eleni ydoedd waliau a ffiniau. Yn sgil yr ymateb ardderchog i gyfres Y Wal (neu An Balla ar TG4) cafodd Caryl Ebenezer (cynhyrchydd Y Wal Rondo/ S4C), ynghyd â Síle Nic Chonaonaigh (cyflwynydd fersiwn TG4) a rhai o gyfranwyr rhyngwladol y gyfres, eu gwahodd i sôn am y profiad o gyd-gynhyrchu’r gyfres arbennig yma.