Mae cerdd dant yn unigryw i ni fel Cymry, ac mor boblogaidd ag erioed. Uchafbwynt calendr pob un sy’n ymddiddori yn y grefft yw’r Ŵyl Cerdd Dant, ac eleni cynhelir yr Ŵyl Cerdd Dant yn ardal Blaenau Ffestiniog a’r Fro. Gallwch ddilyn holl gyffro cystadlu yr Ŵyl eleni mewn dwy raglen ar S4C.
Darllediad y prynhawn: 14.00 – 16.40 Darllediad y nos: 19.35 – y diwedd!
Bydd darllediad ar Radio Cymru hefyd o 19.30 ymlaen.