Cynorthwy-ydd cyllid (dros gyfnod mamolaeth gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb)
Mae Rondo yn chwilio am unigolyn brwdfrydig gyda phrofiad yn y maes cyllid neu ddiddordeb mawr i hyfforddi yn y maes hwn i ymuno a’r tîm bach sy’n cydlynu cyllid cynyrchiadau megis Rownd a Rownd, Sgorio, Cynefin ac eraill.
Byddwch yn cydweithio ar bob cam o’r broses gynhyrchu rhaglenni , o greu cyllideb, gweinyddu’r gyllideb i baratoi adroddiadau yn ôl y galw. Gall hyn olygu ymweliadau cyson a’r lleoliadau ffilmio.
Prif Ddyletswyddau:
- Taliadau ac ymholiadau cyflenwyr
- Cysoni banc
- Delio gydag arian parod y cwmni
- Cynorthwyo gyda’r gyflogres
- Adroddiadau TAW
- Paratoi adroddiadau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw.
(The above advert is for the post of Accounts Assistant (maternity cover) for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.)
Cytundeb: 12 mis
Lleoliad: Caernarfon
Cyflog: i’w drafod yn unol a phrofiad
Oriau gwaith: 0900 – 1700 Llun i Gwener
Dyddiad cau: 5ed Chwefror 2021
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i liz.lewis@rondomedia.co.uk