Mae un o raglenni Rondo wedi derbyn clod rhyngwladol yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2019 neithiwr.
Cipiodd Ffion Dafis: Bras, Botox a’r Bleidlais (S4C) y fedal efydd yn y categori rhaglen ddogfen gymunedol. Mae’r rhaglen ysbrydoledig hon yn dilyn taith bersonol Ffion Dafis i glywed straeon anhygoel menywod Cymru heddiw.
Mae Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd yn dathlu creadigrwydd y diwydiant cyfryngau ar draws hanner cant o wledydd. Cynhaliwyd seremoni wobrau’r ŵyl yn Las Vegas ar 9 Ebrill 2019.