Mae’r ardal ôl-gynhyrchu yn Rondo Caernarfon yn ategu adnoddau’r stiwdio gyda 6 ystafell olygu a 2 ystafell ddybio sy’n cynnwys bythau trosleisio. Maent oll yn cael eu gyrru ar fersiynau diweddaraf meddalwedd Avid.
Mae gennym hefyd gyfleusterau ôl-gynhyrchu helaeth yng Nghaerdydd sy’n cynnwys 3 ystafell olygu ynghyd â meddalwedd Avid eraill i lwytho a gwylio cynnwys.