Cyfle Rownd a Rownd:

Galwad agored am bobl creadigol ifanc LHDTC+

Beth yw Cyfle LHDTC+ Rownd a Rownd?

Wyt ti’n berson creadigol LHDTC+? Wyt ti rhwng 16 a 29 mlwydd oed? Wel mae gan Rownd a Rownd gyfle cyffroes i ti! 

Mae tîm cynhrychu Rownd a Rownd yn chwilio am bobl ifanc LHDTC+ i weithio gyda nhw i ddatblygu darnau newydd o gynnwys ar gyfer llwyfanau digidol. Dim ots os oes gen ti llwyth o brofiad neu dim o gwbl, dy ni’n chwilio am dalent a’r gallu i ddweud stori. 

Yr unig beth sy’n rhaid i ti ei wneud yw sgwennu monolog hyd at 5 munud o hyd sy’n adlewyrchu profiadau bywyd person ifanc LHDTC+ yng Nghymru heddiw ac anfon y sgript neu fideo ohono’n cael ei berfformio a’r ffurflen gais at cyflerar@rondomedia.co.uk

Manylion Pwysig

  • Mae’r cyfle hon ar agor i bobl ifanc 16-29 mlwydd oed.
  • Ni ddylai’r monolog fod yn hirach na 5 munud o hyd. Gallwch anfon sgript i mewn neu fideo ohono’n cael ei berfformio. Rhaid anfon y gwaith a’r ffurflen gais at cyflerar@rondomedia.co.uk
  • Mae’r cyfle yma ar agor i unigolion yn unig.
  • Ar gyfer y cyfle hon rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr LGBTQ+ o dan reolau gweithredu cadarnhaol y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 gan fod y grwpiau hyn wedi eu tangynrychioli ar draws y sector teledu a ffilm yng Nghymru. 

Dyddiadau Pwysig 

Mae’r cyfle’n agor o’r 5ed o Awst 2021 ac yn cau ddydd Gwener 1af o Hydref 2021. 

Y Cyfle

Bydd tim cynhyrchu Rownd a Rownd yn darllen cynigion yr awduron i gyd ac yn dewis tim bychan o blith yr awduron hynny i ddatblygu eu gwaith trwy gyfres o weithdai a chreu darnau o gynnwys gwreiddiol i lwyfanau digidol Rownd a Rownd. 

RHEOLAU A CHANLLAWIAU CYFLE ROWND A ROWND

1. Mae’r cyfle yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C neu Rondo Media neu aelodau o’u teuluoedd agos.

2. Rhaid i bob ymgeisiydd fod rhwng 16 oed a 29 mlwydd oed ar 1 Hydref 2021 er mwyn ymgeisio. Ceidw’r Rondo Media ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.

3. I ymgeisio ar gyfer y cyfle, rhaid danfon y gwaith a’r ffurflen gais at Rondo Media erbyn 17:00 Nos Wener 1af o Hydref 2021.

4. Os byddwch am ddefnyddio ieithoedd amrywiol o fewn eich monolog, dylai’r Gymraeg fod yn fwy amlwg na ieithoedd eraill. 

5. Ni all sgript y monolog neu fideo ohono’n cael ei berfformio fod yn hirach na 5 munud o hyd.

6. Rhaid i pob elfen o’r gwaith fod yn wreiddiol i’r awdur ac ni fydd yn torri hawliau eiddo deallusol, hawliau preifatrwydd nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, ac ni fydd yn cynnwys unrhyw beth sy’n enllibus, difenwol, anllad, anweddus, yn peri aflonyddwch neu’n fygythiol.

7. Mae’r cyfle hon ar agor i unigolion yn unig, ni all cyplau neu grwpiau gyd-ymgeisio. 

8. Bydd tim cynhyrchu Rownd a Rownd yn dewis tim o sgwennwyr i ddatblygu eu gwaith trwy gyfres o weithdai a chreu darnau o gynnwys gwreiddiol i lwyfanau digidol Rownd a Rownd.

9. Bydd yr awduron a ddewisir i ddatblygu eu gwaith yn derbyn cytundebau comisiynu gwaith a fydd yn aseinio’r gwaith i’r Cwmni a bydd ffi yn daladwy am y gwaith hynny. Oni ddewisir y gwaith a gyflwynir yn unol a’r cyfle hwn i’w ddatblygu ymhellach yna fe fydd y yr awdur yn dal ar berchnogaeth y gwaith hynny (gan gynnwys gwaith y rhai hynny na fyddant wedi eu dewis i fynd ymlaen i ddatblygu eu gwaith ymhellach).

10. Bydd gan Rondo Media ac S4C yr hawl i ddefnyddio enw a llun proffeil yr awdur at ddibenion hyrwyddo’r cyfle hwn mewn unrhyw gyfrwng.

11. Bydd penderfyniad Rondo Media ac S4C yn derfynol.

12. Bydd y Cwmni yn cadw data personol yr awduron am gyfnod rhesymol ar ôl y cyfle yma i ymgeisio er mwyn gweinyddu’r cyfle hwn ac i ddelio gydag unrhyw gwestiynau.

13. Caiff unrhyw ddata personol a gesglir ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data perthnasol y DU. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi preifatrwydd sydd wedi’i gyhoeddi ar Polisi Preifatrwydd – Rondo Media. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi sydd wedi’i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/

14. Mae Rondo Media a/neu S4C yn cadw’r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o’r rheolau hyn.

15. Ni fydd Rondo Media nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Nid yw prawf bod sgript/ffilm wedi ei chyflwno yn cyfateb i brawf ei bod wedi ei derbyn.

16. Mae Rondo Media a/neu S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio’r cyfle ar unhryw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y cyfle hwn yn cael ei gynnal yn unol â’r deddfau a chanllawiau perthnasol.

17. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

18. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r cyfle at dîm Rownd a Rownd drwy e-bost: cyflerar@rondomedia.co.uk