Cyfweliadau arbennig a chlipiau o’r archif i ddathlu un o gyfresi mwyaf eiconig S4C. Yn 1988, sbardunodd Sgorio chwyldro mewn darlledu pel-droed: am y tro cyntaf erioed, roedd gemau’r cyfandir ar gael ym Mhrydain. Roedd modd gweld ser mwya’r byd yn wythnosol a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe drodd y gyfres yn ffenomenon. Bydd y rhaglen hon yn olrhain holl hanes y tri degawd diwethaf ac yn dathlu’r gyfres ar ei ffurf bresennol, yng nghwmni cyn-gyflwynwyr a rhai o wynebau enwocaf pel-droed Cymru.

Nos Iau, Rhagfyr 27, 22.00 s4C

1 x 60″