Caernarfon

Cyfleusterau Stiwdio

Buddsoddodd Rondo £400,000 yn 2014 mewn adnoddau stiwdio â’r cyfarpar diweddaraf. Adeiladwyd rhain yn bennaf ar gyfer Clwb, cynhyrchiad newyddion a chwaraeon byw, ond hefyd i wasanaethu unrhyw gynyrchiadau stiwdio eraill.

Mae gennym 2 ardal stiwdio yn Nghaernarfon ar hyn o bryd – y ddwy ohonynt yn cynnwys rig goleuo. Mae’r adnoddau hyn hefyd ar gael i gleientiaid allanol am gyfraddau cystadleuol.

Mae galeri sain a llun ar wahân, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf yn cynnwys system cyfathrebu a talk-back sydd yn delio â’r holl gysylltiadau cymhleth a dwy ffordd â SNG byw eraill.

Mae gennym, trwy ein partneriaid lloeren, Gigatel, fferm loeren ar ein safle yng Nghaernarfon sydd â’r gallu i dderbyn hyd at 5 ffrwd ar yr un pryd o loerennau lluosog.

Stiwdio 1
1290
Stiwdio 2
1675

Galeri Llun

Cymysgydd lluniau For-A HVS390
Recordiwr disg Newtek 3Play 4800
Evertz matrics
Camerâu Sony (system Triax digidol)

Oriel Sain

Cymysgydd Yamaha CL5
System Talkback RTS Zeus III

O ddiddordeb?

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyfleusterau a’n gwasanaethau stiwdio yna byddem wrth ein bodd yn siarad â chi am eich anghenion.

Uned Ddarlledu Allanol

Darganfod mwy

Ôl-Gynhyrchu

Darganfod mwy