Cynhyrchydd Ffeithiol

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Ffeithiol i ymuno â thîm Rondo ar amryw o raglenni cyffrous. Mae’r rôl yn berffaith ar gyfer unigolyn profiadol, creadigol ac egnïol sy’n mwynhau ac yn deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau llinol a digidol. 

Bydd disgwyl i’r Cynhyrchydd Ffeithiol fod yn gyfrifol am greu cynnwys apelgar, sy’n gywir ac yn gyffrous. Bydd disgwyl iddynt oruchwylio’r broses gynhyrchu gyfan, o ddatblygu’r cysyniad drwy ymchwilio a gwirio gwybodaeth i gydlynu ag aelodau amrywiol o’r tîm; rheoli cyllidebau ac amserlenni a sicrhau bod y rhaglen derfynol yn gwireddu’r weledigaeth ac yn bodloni safonau rheoliadau darlledu.  

Bydd y Cynhyrchydd Ffeithiol yn allweddol i siapio strategaeth ddigidol a golygyddol y cynyrchiadau ar y cyd gyda’r Uwch-Gynhyrchydd a byddant hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu syniadau newydd i ennill comisiynau pellach i’r cwmni.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn blaengar greu cynnwys cyffrous a beiddgar.

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru

Cyflog: I’w drafod

Cytundeb: Llawn amser am 12 mis i ddechrau

Dyddiad cau: 14/04/25

Dylid dychwelyd y ffurflen gais ar e-bost i Manon@rondomedia.co.uk

Manon@rondomedia.co.uk