Mewn cyfres bwerus ac amserol, y cyflwynydd Ffion Dafis sy’n ymweld â 6 o waliau mwya’ eiconig y byd yn yr Unol Daleithiau a Mecsico, Israel a Phalesteina, Corea, Cyprus, Gogledd Iwerddon a Berlin. Bydd yn teithio i galon cymunedau sy’n byw yng nghysgod y wal, yn cwrdd â rhai sydd methu byw heb waliau, a’r rhai sy’n brwydro i’w tynnu i lawr. Bydd yn holi pam fod waliau’n cael eu hadeiladu, a beth sy’n digwydd pan fod waliau’n cael eu dymchwel. Yn ystod y daith emosiynol, bydd Ffion yn cwrdd â phobl sydd a’u bywydau wedi eu trawsnewid yn llwyr gan y wal. Pobl sydd wedi eu gwahanu oddi wrth deuluoedd ac anwyliaid, pobl sy’n dygymod â chaledi oherwydd y wal a phobl sy’n brwydro i chwalu’r creithiau meddyliol mae waliau yn eu creu.
Mae hon yn gyfres am obaith, undod a chryfder ysbryd pobl, er gwaetha’r rhanniadau sy’n cael eu creu gan waliau.
Y Wal
Nos Sul, Tachwedd 18, 20.00 S4C
6 x 60″