Bydd Ysgol Gerdd Ceredigion yn hedfan allan i Gothenburg yn Sweden ym mis Awst i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir 2019 ar ôl ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2019.
Y côr o siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin dan arweiniad Islwyn Evans oedd dewis y beirniaid nos Sul 7 Ebrill yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth mewn noson a gafodd ei chyflwyno’n fyw ar S4C yng nghwmni’r darlledwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones.
Yn ychwanegol at y tlws, roedd yna wobr ariannol o bum mil o bunnau.
Ysgol Gerdd Ceredigion, Johns’ Boys o Rosllannerchrugog, CF1 o Gaerdydd, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn oedd y pum côr aeth benben a’i gilydd mewn cystadleuaeth gafodd ei chanmol i’r cymylau gan y beirniaid.
* Gellir darllen y datganiad i’r wasg yn ei gyfanrwydd ar wefan S4C