Ôl-Gynhyrchu

Cyfleusterau o’r Radd Flaenaf.

Timau Profiadol.

Canlyniadau Eithriadol.

Mae ein cyfleusterau ôl-gynhyrchu o’r radd flaenaf yng Ngogledd a De Cymru yn darparu llif gwaith di-dor o safon ddarlledu ar gyfer cynyrchiadau o bob maint gyda dros 2 petabyte o storfa ddata rhwng y ddau safle. Wedi’u cynllunio ar gyfer darlledwyr, cynhyrchwyr a chleientiaid trydydd parti fel ei gilydd, mae Rondo yn cynnig technoleg flaengar, timau technegol profiadol a gofodau creadigol hyblyg – oll wedi’u hadeiladu i ddiwallu gofynion cynhyrchu teledu modern.

Yn ein pencadlys yng Nghaernarfon, mae’r adran ôl-gynhyrchu yn cynnwys 3 swît olygu offlein, 5 gorsaf Avid o bell (remote), 3 swît onlein a graddio Avid/Davinci. Mae pob swît yn defnyddio’r ecosystem Avid ddiweddaraf, gan sicrhau llif gwaith cyflym, dibynadwy a chydweithredol – o’r bras olygu i’r cyfleu terfynol.

Yng Nghaernarfon hefyd mae 3 swît ddybio bwrpasol, gyda 2 ohonynt yn cynnwys bwth trosleisio proffesiynol. Mae pob swît yn defnyddio meddalwedd source-connect sy’n ein galluogi ni i recordio o bell (remote) gydag artistiaid a chynhyrchwyr dros y byd.

Mae ein cyfleusterau yng Nghaerdydd, sydd wedi’u lleoli 200 metr o Orsaf Ganolog Caerdydd, yn darparu canolfan ôl-gynhyrchu helaeth yng nghanol y brifddinas. Mae’r safle yn cynnwys 3 swît Avid Symphony ar-lein gyda mynediad at DaVinci Resolve, plugin Baselight, Adobe After Effects a Premiere Pro, ynghyd â 6 ystafell bras olygu a 15 gorsaf Avid o bell (remote) sy’n cefnogi golygyddion a thimau cynhyrchu sy’n gweithio ar draws nifer o leoliadau.

Rydym hefyd yn cynnig 2 swît ddybio ProTools proffesiynol gyda mynediad uniongyrchol at ein bwth trosleisio safonol, DemVox. Trwy ein gallu integredig i recordio o bell (remote), rydym yn brofiadol yn cysylltu artistiaid llais a chyfranwyr o bob cwr o’r byd yn uniongyrchol â’n swîtiau, gan alluogi cynhyrchu sain effeithlon o ansawdd uchel ble bynnag y mae’r talent wedi’i leoli.

Cyfleusterau a gwasanaethau ôl-gynhychu

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ôl-gynhyrchu yna byddem wrth ein bodd yn siarad â chi am eich anghenion.

Uned Ddarlledu Allanol

Darganfod mwy

Cyfleusterau Stiwdio

Darganfod mwy