Ein hadran chwaraeon fywiog yn Rondo yw’r grym creadigol y tu ôl i’r brand pêl-droed hirhoedlog, arobryn Sgorio ar gyfer S4C. Gyda thîm talentog ac angerddol, rydym yn cynhyrchu darllediadau wythnosol o bêl-droed domestig Cymru, gan ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel sy’n cysylltu’n ddwfn â chefnogwyr. Mae’r tîm yn ddigon hyblyg i gynhyrchu gemau byw o ffrydiau un camera i ddarllediadau llinol cymhleth, gyda arbenigedd mewn golygu cyflym ac uchafbwyntiau safonol.
Mae hefyd ganddon ni brofiad helaeth wrth gynhyrchu darllediadau o gemau rhyngwladol Cymru, gan gynnwys fel darlledwyr prif UEFA ar ran S4C, yn ogystal â gemau Cwpan FA Lloegr a gemau Ewropeaidd sy’n cyrraedd cynulleidfa eang yn y DU ac yn rhyngwladol.









