S4C 2017 1 x 60
Mae Dylan Llewelyn yn cychwyn ar daith emosiynol gan edrych yn ôl ar drychineb Hillsborough yn Sheffield lle bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl mewn gêm bêl-droed ar Ebrill 15 1989. Mae’n cwrdd â theuluoedd a gollodd anwyliaid a llawer a welodd y drasiedi gan gynnwys Ian Rush a John Barnes. Mae Dylan hefyd yn cwrdd â rhai o gefnogwyr Cymru Lerpwl sy’n siarad yn agored am y tro cyntaf am eu profiadau trawmatig.



