REBELS IWERDDON 1916

S4C    2016   1 x 60

Dogfen arbennig ar ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, yn datgelu cysylltiad rhyfeddol Michael Collins â Chymru.

Mae 2016 yn nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, brwydr waedlyd a sbardunodd y daith hir tuag at annibyniaeth Iwerddon. Mae’r darlledwyr Lyn Ebenezer a’i fab Dylan yn cychwyn ar daith arbennig i olrhain yr hanes, lle maent yn cwrdd â rhai o eiconau’r ymgyrch dros annibyniaeth, gan gynnwys Gerry Adams.