PHILIP JONES GRIFFITHS : FFOTOGRAFFYDD RHYFEL FIETNAM

S4C | BBC WORLDWIDE   2016   1 x 60

Hanner can mlynedd yn ôl, ym 1966, bu i’r ffotograffydd o Gymru Philip Jones Griffithsymweld â Fietnam am y tro cyntaf. Roedd yn brofiad a fyddai’n llunio ei yrfa’n gyfangwbl, ac yn trawsnewid dealltwriaeth y byd y gost ddynol sydd i ryfel. Tynodd Griffiths ddelweddau anhygoel o ddioddefwyr rhyfel, o sifiliaid diniwed i filwyr ifanc a oedd wedi’u dal yn y gwrthdaro. Trawsnewidiodd ei ddyddiadur lluniau o 1971, VIETNAM INC., ein dealltwriaeth o’r gwrthdaro ofnadwy hwn am byth. Yn cynnwys cyfweliadau â rhai o’r rhai agosaf ato; teulu a ffrindiau a chydweithwyr gan gynnwys John Pilger, Don McCullin a’r Athro Noam Chomsky, mae’r rhaglen ddogfen hardd hon yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd ac etifeddiaeth dyn a oedd wir yn ddyngarwr ac y mae ei luniau’n glasuron o ffotonewyddiaduraeth, mor bwerus heddiw â’r diwrnod y cawsant eu tynnu.

Enillydd Rhaglen Nodwedd Dramor Orau

Gwobrau Gŵyl Annibynnol Ryngwladol Hollywood
2017

Enillydd Gwobr Arian

Gŵyl Wobrau Efrog Newydd
2017