S4C 2010 1 x 60
I gyd-fynd â Diwrnod Cofio’r Holocost, mae’r rhaglen arbennig hon yn dilyn Nona Gruffudd-Evans, ei thad Heini Gruffudd a’i merched Gwenllian a Greta ar eu taith emosiynol o Gymru i’r Almaen i ddysgu mwy am ddioddefaint poenus y teulu yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn Berlin a thref fechan Lutherstadt Wittenberg yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen, byddant yn cwrdd â theulu a ffrindiau cyn cychwyn ar y daith ddirdynol i Wersyll-Garchar Ravensbrück lle llofruddiwyd mam-gu Heini – Käthe Bosse – 65 mlynedd yn ôl.



