BBC Wales 2025 1 x 30
Stori ddramatig cyd-yrrwr rali Cymru Nicky Grist, pan newidiodd ei fywyd mewn amrantiad ar ôl galwad funud olaf i ymuno â phencampwr y byd Juha Kankkunen ym 1993 – dim ond dyddiau cyn rali.
Mewn camp lle gall gwaith tîm olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw, mae stori Nicky Grist yn rhyfeddol. Roedd y rhagarchwiliad o’r trac eisoes wedi dechrau yn yr Ariannin ym 1993 ar gyfer Pencampwriaethau Rali’r Byd cyn i Nicky gael yr alwad ffôn a newidiodd ei fywyd. Roedd y pencampwr byd deirgwaith Juha Kankkunen angen rhywun i gymryd lle ei gyfeiriwr gan iddo fynd yn ddifrifol wael yn sydyn. Nid oedd Kankkunen eisiau neb oni bai am Grist, a oedd â bri broffesiynol a oedd yn ffynnu ar y pryd, eistedd wrth ei ymyl.
Felly, pan yn gorwedd yn ei gwely, yn breuddwydio am rownd o golff, cafodd Nicky Grist alwad ffôn â roddodd dridiau yn unig iddo i adeiladu partneriaeth o’r radd flaenaf.



