Cerddoriaeth a Digwyddiadau

Mae Rondo Media yn arbenigo mewn cynhyrchu a darlledu digwyddiadau cerddorol – o gystadlaethau corawl i gyngherddau rhyngwladol, digwyddiadau fel Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chyngherddau a gigs o’r Eisteddfod Genedlaethol i Eisteddfod Ffermwyr Ifanc a’r Ŵyl Cerdd Dant ar gyfer S4C.  Mae Rondo hefyd yn cynhyrchu cyfresi radio yn cynnwys y sioe banel Uffern Iaith y Nefoedd a Swyn y Sul : Geraint Cynan ar gyfer BBC Radio Cymru.

Rydym wedi cynhyrchu cyfresi a darllediadau byw o amgylch cystadleuaeth Junior Eurovision, gan ddewis y cynrychiolydd ifanc o Gymru ar gyfer y gystadleuaeth. Cynhyrchodd Rondo gyfres a enillodd wobr Bafta Cymru wrth ddilyn llwyfannu’r perfformiad yn y Gymraeg o Les Misérables. Pan gynhaliwyd gŵyl ryngwladol Womex yng Nghymru, roedd Rondo yn un o’r partneriaid darlledu – gan gynhyrchu cynnwys ar gyfer S4C a’r BBC.

Gweithiodd Rondo mewn partneriaeth â National Theatre Wales a’r BBC i ffilmio a chynhyrchu rhaglenni City of the Unexpected – rhan o ddathliadau canmlwyddiant Roald Dahl. Mae rhaglenni nodedig eraill yn cynnwys cyngerdd cofio Aberfan – Cantata Memoria – a enwebwyd am wobr Broadcast a darllediadau hefyd gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys Falstaff gyda Bryn Terfel) ac yn fwy diweddar, recordiadau o gynyrchiadau Theatr Cymru Parti Priodas a Romeo a Juliet.