S4C 2021 6 x 30
Cyfres ddogfen yn dilyn grŵp clos o fechgyn o Gwm Rhondda wrth iddyn nhw droi’n 18 oed. Sut fydd y bobl ifanc o Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ymateb wrth iddyn nhw gyrraedd y groesffordd hon yn eu bywydau a dechrau ar eu taith i fyd oedolion y tu hwnt i gatiau’r ysgol? Mae’r bechgyn yn myfyrio ar rai o’r materion sy’n wynebu eu cenhedlaeth heddiw ac yn herio’r stereoteipiau sy’n gysylltiedig â thyfu i fyny yn un o gymoedd mwyaf eiconig y byd. Beth bynnag wnaiff ddigwydd, mae’r bechgyn am fod yno i’w gilydd a byddant yn wynebu bywyd gyda gwên a’u synnwyr digrifwch unigryw.



