BBC Wales + Network 2023 1 x 30
Taith drwy hanes Clwb Pêl-droed Wrecsam yw’r ddogfen hon, yn archwilio pam fod dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed o dan berchnogaeth y sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn golygu cymaint i gefnogwyr y clwb.
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn un o’r clybiau pêl-droed hynaf yn y byd, gyda’u cartref, Y Cae Ras yn dyddio’n ôl i ddyddiau cychwynol pêl-droed fel y gwyddom ni amdano heddiw. Mae ganddyn nhw hanes sy’n ymestyn yn ôl ymhellach na’r rhan fwyaf, gyda llond gwlad o ddrama ac eiliadau cofiadwy sy’n ddigon i gystadlu gydag unrhyw glwb.
Digwyddodd cryn dipyn yn Wrecsam cyn i Rob a Ryan ddod i’r dref.



