GRŴP RONDO MEDIA

Mae Grŵp Rondo Media yn un o brif grwpiau cynhyrchu creadigol Cymru, gan ddod â Rondo Media, Yeti Television, Galactig a Stiwdio Ffilmiau Aria ynghyd o dan un weledigaeth greadigol. Gyda’i gilydd, mae ein cwmnïau’n cyfuno rhagoriaeth mewn adrodd straeon ac arbenigedd technegol ac rydym yn ymfalchio yn ein cysylltiad dwfn â diwylliant Cymru a’n perthynas glos gyda phobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru.
O’n canolfannau ledled y wlad, rydym yn cynhyrchu dramâu, rhaglenni ffeithiol, adloniant, chwaraeon a chynnwys digidol sydd wedi ennill llu o wobrau, ar gyfer darlledwyr mawr yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein gwaith yn adlewyrchu’r creadigrwydd a’r uchelgais sy’n gosod talent Cymru ar lwyfan y byd.
Mae gan bob cwmni o fewn y grŵp ei gryfder a’i hunaniaeth unigryw. Mae Rondo Media yn adnabyddus am gynhyrchu cyfresi drama poblogaidd, rhaglenni dogfen safonol, cynnwys chwaraeon pell-gyrhaeddol a digwyddiadau cerddorol ar raddfa eang, yn ogystal â chynnwys crefyddol sydd â dilyniant cryf gan gynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae Yeti Television yn arbenigo mewn cynnwys ffeithiol a rhaglenni di-sgript sy’n cysylltu’n uniongyrchol â chynulleidfaoedd. Mae Galactig yn arwain ym maes cynnwys digidol ac ymgysylltu creadigol ar draws llwyfannau modern. Ar Ynys Môn, mae Stiwdios Ffilm Aria yn darparu cyfleusterau cynhyrchu o safon ryngwladol - o gyfresi teledu safonol i gynyrchiadau ffilm mawr Hollywood.
Gyda’i gilydd, mae’r grŵp yn ffurfio ecosystem gynhyrchu gyflawn; o ddatblygu syniadau a chreu straeon, i gynhyrchu mewn stiwdio ac arloesi digidol gan greu grym creadigol unigryw o fewn diwydiant sgrin Cymru, y DU a thu hwnt.

RONDO MEDIA

Sefydlwyd Rondo Media yn 2008 gyda gweledigaeth feiddgar i adrodd straeon rhagorol, o bwys. Heddiw, mae’r cwmni’n un o gwmnïau cynhyrchu mwya’ Cymru gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Caernarfon ac Ynys Môn.

Mae ein gwaith yn cwmpasu ystod gyfoethog o gynyrchiadau, gan gynnwys brandiau poblogaidd fel y gyfres bêl-droed Sgorio, y gyfres sebon Rownd a Rownd, y gyfres wythnosol aml-ffydd Dechrau Canu Dechrau Canmol, a’r gyfres ddrama afaelgar Bariau.

Rydym yn falch iawn o’n rhaglenni ffeithiol arbenigol nodedig yn cynnwys Stori’r Iaith (S4C); Seren Jones: Yn Fyw yn y Dŵr (S4C), Siân Phillips at 90 (S4C + BBC), Paid â Dweud Hoyw / Don’t Say Gay (S4C), a Two Sisters: One Goal (BBC).

Rydym yn cydweithio â rhai o’r crewyr cynnwys gorau yn y byd i ddatblygu a chyd-gynhyrchu cyfresi dogfen rhyngwladol dylanwadol, fel y gyfres Y Wal The Wall / An Balla / Am Balla (S4C, TG4, MG Alba gyda chefnogaeth Cymru Greadigol ac wedi’i dosbarthu gan Cineflix). Mae Y Wal yn gyd-gynhyrchiad uchelgeisiol a ffilmiwyd gyda thri chyflwynydd mewn tair iaith wahanol, ac wedi’i leisio yn Saesneg gan Matthew Rhys.

GWERTHOEDD RONDO MEDIA

Mae hyfforddi a datblygu sgiliau yn ganolog i’n cenhadaeth, ac mae adeiladu dyfodol bywiog a medrus i gyfryngau Cymru yn rhan bwysig o’r weledigaeth hon. Wedi’i wneud yng Nghymru, wedi’i leoli yng Nghymru, ac yn falch o hynny.
Yn Rondo, mae creadigrwydd, ymddiriedaeth a chydweithio yn llywio’r ffordd rydym yn gweithio. Rydym yn falch o fod yn gwmni cynhwysol ac arloesol sy’n edrych tua’r dyfodol, yn hyrwyddo amrywiaeth, yn cefnogi lleisiau newydd, ac yn creu cyfleoedd i dalent o bob cefndir.

PWY ‘DI PWY

Ein tîm yw calon y cwmni.

Eu talent a’u cymeriad sy’n gwneud Rondo yn lle mor arbennig i weithio.

Caryl Ebenezer

Cyfarwyddwr Cwmni ac Uwch Gynhyrchydd Ffeithiol

Alwyn Davies

Cyfarwyddwr Cwmni a Chyfarwyddwr Cyllid

Gareth Williams

Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cwmni

Manon Owen

Cyfarwyddwr Cwmni a Chyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Bedwyr Rees

Cyfarwyddwr Cwmni ac Uwch Gynhyrchydd Drama

Sion Clwyd Roberts

Cyfarwyddwr Cwmni a Chyfarwyddwr Masnachol

Seiriol Dawes-Hughes

Cyfarwyddwr Cwmni ac Uwch Gynhyrchydd Chwaraeon

Lleucu Gruffydd

Cynhyrchydd

Annes Wyn

Cynhyrchydd

Aled John

Cynhyrchydd Cyfres

Lowri Evans

Cynhyrchydd Cyfres

Mike Williams

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Rhodri Lewis

Ymchwilydd

Tom Ware

Uwch Gynhyrchydd Ymgynghorol

Jemma Evans

Cydlynydd Cynhyrchu

Gwion Tegid

Uwch Gynhyrchydd

Ciron Gruffydd

Awdur a Golygydd Digidol

Gruff Rees

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Garmon Emyr

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Catrin Darnell

Cynhyrchydd Ôl Gynhyrchu

Luned Phillips

Cynhyrchydd

Ifan Gwilym

Is-Gynhyrchydd a Sylwebydd

Miriam Davies

Cydlynydd Cynhyrchu

Siân Thomas

Pennaeth Cynhyrchu Caerdydd

Tawny Charles

Is-Gynhyrchydd

Elain Davies

Ymchwilydd

Lleucu Wyn Williams

Swyddog Cynnwys Digidol

Eirlys Hatcher

Rheolwr Cynhyrchu a Chydlynydd Ôl Gynhyrchu

Gareth Owens

Prif Olygydd (Caerdydd)

Deiniol Jones

Is-Gynhyrchydd

Maya Jagger

Ymchwilydd

Liz Lewis

Rheolydd Cyllid

Dafydd Thomas

Cynhyrchydd Cyfres

Llio Non

Golygydd Sgript

Myfanwy Thomas

Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid

Dylan Jones

Rheolwr Safleoedd a Cherbydau

Lleu Pryce

Ymchwilydd

Rhys Llwyd

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Cadi Erin Griffiths

Cynorthwyydd Cyllid

Finlay Prytherch

Cynorthwyydd Technegol

Gwenno Ellis Owen

Rheolwr Cynhyrchu dan Hyfforddiant

Iwan Sion

Cydlynydd Cynhyrchu ac Ôl Gynhyrchu

Sioned Dafydd Rowlands

Cyflwynydd a Gohebydd

Elin Williams

Cynhyrchydd Digidol

Ffion Elin

Is-Gynhyrchydd Digidol

Siôn Land

Is-Gynhyrchydd Digidol

Eban Huw

Cynorthwyydd Camera

Ynyr Williams

Uwch Gynhyrchydd

Nia Parry Williams

Rheolydd Cynhyrchu

Rhian Evans

Rheolydd Ystafell Beirianneg Caernarfon

Rhun Lloyd

Cynorthwyydd Safleoedd a Cherbydau

Iestyn Jones

Cynorthwy-ydd Ystafell Beirianneg

Elis Dafydd

Golygydd

Ed Lewis

Golygydd

Ffion McBryde

Rheolydd Cyllid

Owain Llewellyn

Gweithredydd Technegol Ôl Gynhyrchu

Ifan Prys Edwards

Ymchwilydd

Gavin Jones

Pennaeth Technoleg Grŵp Rondo

Llion Baines

Prif Beiriannydd

Gwern Ap Tudur

Golygydd Dybio

Non Llywelyn

Golygydd Dybio

Gethin Glyn

Golygydd

Geraint Williams

Golygydd

Tristan Lewis

Prif Olygydd (Caernarfon)

Dewi Thomas

Golygydd Dybio

Erddin Llwyd

Golygydd

Robin Jones

Golygydd Dybio

Tomos Wyn Jones

Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol

Lewis Moulding

Swyddog TG, Cyfryngau a Darlledu

Sion Jones

Peiriannydd Sain

Andy Barwise

Rheolwr TG a Pheiriannydd Darlledu

Luc Thomas

Technegydd Uned Ddarlledu Allanol

Llyr Titus

Is-Gynhyrchydd

Nicky John

Gohebydd a Chydlynydd Cynhyrchu

Meilyr Williams

Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol

Bleddyn Wakeford

Cynorthwyydd Technegol