Mae Rownd a Rownd yn edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o fwrlwm Eisteddfod Yr Urdd eleni sy’n dod i Ynys Môn ac mi fydd digon o gyfle i ffans y gyfres gymryd rhan yn yr hwyl! 

Yn ystod yr wythnos, byddwn ni’n cynnal her arbennig “Lle mae nhw’n cuddio?!” ar faes yr Eisteddfod gyda rhai o gymeriadau’r gyfres mewn lleoliad ar y maes gyda thocyn aur arbennig. 

Her y Tocyn Aur 

O ddydd Llun i ddydd Iau (Mai 25-28) rhwng 14:00 – 15:00, bydd un o actorion Rownd a Rownd rhywle ar y maes yn cuddio! 

Byddwn yn rhannu cliwiau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Rownd a Rownd ac S4C yn ystod y diwrnod gan roi’r cyfle i chi ddod o hyd i gymeriad y dydd sydd gyda’r tocyn aur.  

Bydd enwau pawb sy’n llwyddo i ddod o hyd i’r cymeriad yn cael eu roi mewn het a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mhabell S4C am 15:00. 

Bydd yr enillydd yn cael: 

  • Goodie bag Rownd a Rownd 
  • Taith unigryw o amgylch setiau Rownd a Rownd ar y diwrnod canlynol i hyd at 8 o bobl 

Bydd digon o hwyl a chyfle i weld rhai o wynebau’r gyfres drwy’r wythnos! 

Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol! Bydd cliwiau, lluniau, diweddariadau ar ein cyfrifon drwy’r wythnos – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn i beidio colli dim! 

Welwn ni chi ar y maes!