BBC Wales | Network | S4C 2020 1×60
BRITANNIA: TÂN AR Y BONT
(Fire on the Bridge)
Rhaglen ddogfen wedi’i chynhyrchu mewn dwy fersiwn wahanol ar gyfer darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r ffilm yn nodi 50 mlynedd ers y tân a ddinistriodd bont reilffordd Britannia dros Afon Menai i Ynys Môn. Mae’n cynnwys archif nodedig ac adroddiadau llygad-dystion cyffrous o ddinistr ac aileni campwaith peirianneg Brydeinig. Gan ddefnyddio cyfoeth o luniau o’r cyfnod, ffotograffiaeth syfrdanol a thystiolaethau uniongyrchol gan y dynion a beryglodd eu bywydau yn ymladd y fflamau, dyma stori fyw Pont Britannia o’i hadeiladu yn Oes Fictoria i’w hatgyfodiad yn y 1970au.



