YouTube
Copsan
Awdur : Greta Siôn, Mari Elen, Lleucu Sion
Cyfarwyddwr : Gwion Tegid
Cyfres i Youtube yn gyntaf oedd Copsan, a chyfres oedd yn dod o dan faner Rownd a Rownd ond yn canolbwyntio ar gymeriadau ifanc, llai blaenllaw ar y gyfres linol. Gan brofi yn boblogaidd iawn ar draws ein llwyfannau digidol, ac yn gyfle hyfforddi rhagorol i’r criw cynhyrchu, mae Copsan yn enghraifft wych o ethos Rondo pan mae’n dod at esblygu a meithrin y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr rhaglenni Cymreig.



