CRANOGWEN

gyda Ffion Hague

S4C   2023   1 x 60

Mae’r hanesydd a’r darlledwraig Ffion Hague yn olrhain hanes yr arwres arloesol Cranogwen, wrth i gerflun arbennig ohoni gael ei ddadorchuddio yn Llangrannog. Heriodd Cranogwen gyfyngiadau Oes Fictoria drwy fynnu mwy o statws i fenywod yn y gymdeithas. O Langrannog i’r byd, roedd Cranogwen yn fenyw o flaen ei hamser ac wrth i Ffion ddilyn y broses o greu’r cerflun, mae hi’n darganfod mwy am ei dylanwad ar hanes Cymru. Mae stori Cranogwen yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.