Dechrau Canu Dechrau Canmol

Ers 2017

Wedi’i chynhyrchu gan Rondo i S4C ers 2017, mae’r gyfres wythnosol Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C yn gyfuniad cyffrous o ddathlu emynau Cymreig a straeon dogfennol ysbrydoledig. Mae’r rhaglen yn denu dilynwyr ffyddlon sy’n gwerthfawrogi’r modd y mae’r gyfres yn dyrchafu crefydd, tra’n cynnig llwyfan agored i drafod pob math o gredoau a safbwyntiau ysbrydol. Trwy gerddoriaeth a thystiolaethau personol, mae’r gyfres yn parhau i ysbrydoli ac uno cymunedau ledled Cymru.

Gwyliwch ar BBC iPlayer