Rownd a Rownd

S4C    88 x 30

Bellach yn ei 31ain flwyddyn o gynhyrchu, mae opera sebon eiconig Rondo, sydd wedi’i lleoli ar lannau’r Fenai, yn un o frandiau mwyaf amlwg a dibynadwy S4C. Ar ôl esblygu o benodau 12 munud o hyd i blant i 88 pennod hanner awr y flwyddyn i’r teulu cyfan, mae Rownd a Rownd bellach yn ganolog i brif amserlen llinol S4C, a’i ffigurau ar draws pob platfform digidol yn ffynnu. Rydym yn falch iawn o rôl y cynhyrchiad wrth ddod o hyd i dalent newydd a’u meithrin – ar y sgrin ac oddi arni. Bellach gyda chanran o’r setiau wedi eu lleoli yn Stiwdios Ffilm Aria a chanran ym Mhorthaethwy a Chaernarfon, mae’n rhan hanfodol o’r ecosystem cynhyrchu bywiog yng Ngogledd Cymru.

Gwyliwch ar iPlayer a S4C Clic