SEV : FFASIWN AR Y DIBYN

 S4C Hansh   2019   1 x 15

Hanes Sev Garo, o Ynys Môn, Cymru, sy’n ennill bywoliaeth trwy fentro ar rewlifoedd enfawr yn yr Alpau i gymryd mowldiau o’r patrymau yn y rhew. Gyda’r mowldiau hyn, mae Sev yn creu darnau unigryw o gelf a gemwaith sydd wedi ymddangos yn Wythnos Ffasiwn Paris a Llundain. Nod bywyd Sev yw dal a dathlu rhewlifoedd y byd – cyn iddyn nhw i gyd ddiflannu. Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn ei frwydr bersonol fel dyn creadigol cydwybodol mewn diwydiant ffasiwn sy’n ei chael hi’n anodd lleihau ei effaith enfawr ar yr hinsawdd.