Y BRODYR CABANGO

S4C   2021   1 x 60

Rhaglen ddogfen arbennig yn dilyn y brodyr Ben a Theo Cabango o Gaerdydd, dau ddyn ifanc uchelgeisiol sy’n gwneud enw iddyn nhw eu hunain yn gyflym ym myd chwaraeon Cymru – un mewn pêl-droed a’r llall, rygbi. Mae amddiffynwr Dinas Abertawe, Ben, eisoes wedi ennill capiau i Gymru ond mae’n hiraethu i wisgo’r crys coch eto’r haf hwn; mae’r brawd iau Theo sy’n chwarae gydag Academi Gleision Caerdydd yn anelu at ei gap cyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Dan 20 eleni. Mae’r brodyr yn wynebu heriau annisgwyl wrth i’r camerâu eu dilyn yn ystod cyfnod cyffrous yn eu bywydau.