Diddanu yw ein busnes. Mae ein cynhyrchiad Chwilio am Seren: Junior Eurovsion yn gystadleuaeth newydd sbon sy’n cynnig cyfle unigryw i gynrychioli Cymru yn un o gystadlaethau canu mwya’r byd i bobol ifanc – sef y Junior Eurovision Song Contest 2018 yn Minsk, Belarws. Dyma gyfle bythgofiadwy i sêr ifanc y dyfodol arddangos eu doniau a gwireddu breuddwyd.