Mae Rondo yn cynhyrchu dros 20 awr o raglenni crefydd yn flynyddol drwy frand Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C . Yn ystod y pandemic fe ymestynwyd y gwasanaeth yma i gynnwys oedfaon hefyd a oedd yn cael eu darlledu ar fore Sul. Mae’r gyfres yn cynnwys canu mawl mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru a chyfweliadau gyda phobl am eu ffydd a chredoau.