S4C 2025 1 x 60
Mae Cymru wedi colli un o’i mawrion eleni – y tenor o Gilfynydd Stuart Burrows. Dechreuodd ganu yn ifanc, yn canu o ffenest ei stafell wely. Aeth ei yrfa ryngwladol ag ef i’r Metropolitan Opera yn Efrog Newydd, La Scala Milan, Vienna State Opera, Covent Garden a llawer mwy ac fe serennodd yn operau Mozart.
Dyma raglen deyrnged dwymgalon fydd yn cynnwys atgofion rhai oedd yn ei nabod yn dda ac yn agos iddo. Bydd artistiaid fel Gwyn Hughes Jones a Rhian Lois yn disgrifio pam bod ei lais e mor arbennig. Am wlad fach mae Cymru wedi creu cewri cerddorol – ac mae Stuart Burrows ymhlith y mwyaf oll o’r rheiny.



