Llwyddiant BAFTA Cymru i Rondo Media wrth i Stori’r Iaith ennill y Gyfres Ffeithiol Orau.
Mae Rondo Media yn dathlu ar ôl i Stori’r Iaith ennill gwobr y Gyfres Ffeithiol Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2026, gan goroni noson arbennig a welodd gynyrchiadau a thalent Rondo yn cael eu cydnabod ar draws chwe enwebiad.
Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth wych i holl dîm Stori’r Iaith, ac i bawb a gyfrannodd eu hamser, eu profiadau a’u straeon at y gyfres.
Wrth archwilio hanes yr iaith Gymraeg a’i lle yng Nghymru heddiw, derbyniodd Stori’r Iaith dri enwebiad BAFTA Cymru i gyd. Ochr yn ochr â’r enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol, enwebwyd Siôn Pierce Lewis yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol, tra cafodd Leusa Gwenllian ei chydnabod yn y categori Golygu.
Roedd hi hefyd yn flwyddyn gref i ddramâu Rondo.
Derbyniodd Ciron Gruffydd enwebiad yn y categori Awdur am Bariau, gyda Griff Rowland yn cael ei enwebu yn y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen am ei waith ar y gyfres. Mae’r enwebiadau’n cydnabod y dalent greadigol y tu ôl i ddrama sy’n parhau i greu argraff ar gynulleidfaoedd drwy ei straeon grymus.
Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i un o gynyrchiadau hiraf Rondo, Rownd a Rownd, wrth i Buddug Povey dderbyn ei henwebiad BAFTA Cymru cyntaf yn y categori Actores am ei pherfformiad fel Kay Walsh, cymeriad y mae hi wedi’i bortreadu ers 27 mlynedd.
Ar draws rhaglenni ffeithiol, drama, perfformio, cyfarwyddo, ysgrifennu a golygu, mae’r chwe enwebiad yn adlewyrchu ehangder y dalent sydd wrth galon Rondo a safon arbennig gwaith y timau o flaen a thu ôl i’r camera.
Mae ennill y wobr Cyfres Ffeithiol am Stori’r Iaith yn gwneud y gydnabyddiaeth honno’n fwy arbennig fyth.
Llongyfarchiadau enfawr i Caryl Ebenezer, Luned Phillips, Gruff Rees a holl dîm cynhyrchu Stori’r Iaith, yn ogystal â phawb arall gafodd eu henwebu. Rydym yn hynod falch o weld eu gwaith yn cael ei gydnabod gan BAFTA Cymru, ac yn falch o barhau i greu rhaglenni uchelgeisiol a nodedig o Gymru.




