Rondo Media yn Cryfhau Timau Chwaraeon, Digidol ac Ôl-gynhyrchu y cwmni gyda Thri Penodiad Allweddol

Mae Rondo Media yn falch iawn o gyhoeddi cyfres o benodiadau allweddol wrth i’r cwmni edrych ymlaen at bennod newydd gyffrous i’r sector darlledu a chynhyrchu yng Nghymru.

Mae Gethin Hughes wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys Chwaraeon, gan ddod â chyfoeth o brofiad, cysylltiadau a gweledigaeth i un o feysydd mwyaf llwyddiannus a deinamig y cwmni.  Mae Gethin yn gyfarwyddwr profiadol sydd wedi gweithio ar ddarllediadau gemau rhyngwladol dynion a menywod Cymru, yn ogystal â gemau Cwpan yr FA i’r BBC. Mae e hefyd wedi cyfarwyddo a chynhyrchu darllediadau o gystadleuaeth y Gynghrair Rygbi Unedig i Premier Sports, S4C a’r BBC.

Bydd Gethin yn ymuno gyda Rondo ddiwedd y flwyddyn gan ddod yn aelod o uwch-dîm yr adran chwaraeon gyda’r nod o ehangu’r ddarpariaeth ac adeiladu ar amlygrwydd brand poblogaidd Sgorio.

Yn ddiweddar, croesawodd y cwmni Catrin Morris fel Cynhyrchydd Datblygu Cynnwys Digidol, rôl newydd bwysig sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnwys a strategaethau ar gyfer cynulleidfaoedd digidol.

Mae Catrin yn gynhyrchydd profiadol sydd wedi gweithio ar ystod eang o gyfresi, digwyddiadau a phrosiectau digidol – gan gynnwys fel un o gynhyrchwyr cyfres Married at First Sight ar Channel 4,  a chynhyrchydd Cymru ar Daith: Ewros y Menywod ar S4C.  Mae Catrin eisoes yn arwain tîm o weithwyr creadigol yn Rondo wrth i’r cwmni ehangu ei bresenoldeb a’i uchelgais yn y maes digidol.

Yn ogystal, mae Louise Sutton wedi ymuno fel Cynhyrchydd Ôl-Gynhyrchu, gan ychwanegu profiad eithriadol o’r diwydiant teledu rhyngwladol i’r tîm. Bu Louise yn gweithio yn BBC Cymru a gyda thimau Gorilla, Splice a Bad Wolf lle bu’n ymgymryd â rôl goruchwyliwr ôl-gynhyrchu cyfres Doctor Who.

Bydd ei harbenigedd ym maes rheoli ac amserlenni ôl-gynhyrchu yn help i gryfhau gallu Rondo i ddarparu cynnwys o’r safon uchaf ynghyd â denu prosiectau ôl-gynhyrchu eraill.

Mae Rondo hefyd yn estyn pob dymuniad da i Seiriol Dawes-Hughes, sydd wedi ymuno â thîm comisiynu S4C. Mae ei gyfraniad i Rondo dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae’r cwmni’n falch o’i weld yn cael ei ddyrchafu i chwarae rôl bwysig yn nyfodol cynnwys chwaraeon Cymreig.

Dywedodd Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo,  “Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i Rondo. Mae penodiadau Catrin, Gethin a Louise yn dod â sgiliau a phrofiad newydd i’r cwmni, tra bod llwyddiant Seiriol yn dyst i gryfder y talent sydd wedi datblygu yma yn Rondo dros y blynyddoedd. Rydym yn edrych ymlaen yn hyderus at y cyfleoedd sydd o’n blaenau, gan barhau i greu cynnwys uchelgeisiol, creadigol ac arloesol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.”

Gyda’r penodiadau hyn, mae Rondo yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddatblygu cynnwys o’r radd flaenaf ar draws teledu, chwaraeon, llwyfannau digidol a gwasanaethau newydd, gan sicrhau ei fod mewn sefyllfa gref ar drothwy cyfnod newydd o ddarlledu.

Am fanylion pellach, mae croeso i chi gysylltu gyda Tamara Bishopp

tamara@bishopp-pr.co.uk