Mae Rondo wedi bod yn bartner darlledu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers 1994, gan gynhyrchu rhaglenni byw ac uchafbwyntiau cystadlaethau a chyngherddau yn ystod wythnos yr Eisteddfod (S4C a BBC). Mae platfformau digidol gwefan llangollen.tv ynghyd a’r ap wedi denu cannoedd o filoedd o gynulleidfa fyd-eang. Mae digwyddiadau megis Roald Dalh’s City of the Unexpected (BBC Wales) WOMEX: Caerdydd (BBC ac S4C), Côr Cymru (S4C), Band Cymru (S4C) a Gŵyl Gerdd Dant (S4C a BBC Radio Cymru) yn dystiolaeth bellach o gynyrchiadau uchelgeisiol a heriol o bortffolio eang ac amrywiol y cwmni.