Castio Rownd A Rownd

Rydym yn chwilio i gastio dau gymeriad ifanc newydd ar gyfer y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd. Rydym angen bachgen ifanc i bortreadu cymeriad 17 oed a bachgen arall i bortreadu rhywun 12 oed. Fel cam cyntaf, rydym yn gofyn i ymgeiswyr berfformio dwy/dair olygfa.

Dyma i chi bwt am y cymeriadau:

Efan 

17 oed

Hogyn newydd golygus yn cyrraedd i flwyddyn 12 yn yr ysgol. Mae o’n gyrru car (wedi cael ei ben-blwydd yn 17 ddechra mis Medi), yn gefnog, yn hyderus, ac yn cool. Mae ganddo berthynas dda gyda’i dad, Llyr a’r ddau’n dipyn o ffrindia’.

Mae Efan a Ioan ei frawd bach, yn cael eu sbwylio gan Llyr yn rhannol oherwydd absenoldeb y fam. Mae’n haws rhoi prês/ anrhegion iddyn nhw i’w cadw’n hapus.

Mae o’n mwynhau chwaraeon a’n gapten tim pel-droed Gwynedd a’n dipyn o arwr i Robbie ac Owain (fydd yn yr un flwyddyn â fo). Mi fydd cyfle i ni ei weld o yn yr Iard Gychod yn achlysurol yn rhentu kayaks ac ati. Maes o law mi fydd o’n dechrau perthynas hefo merch yn yr ysgol. Er iddi hi, ar y dechrau, feddwl fod o’n dangos ei hun mae’r gwrthdaro a’r “banter” rhyngddynt yn ysgafn – cicio a brathu!

Yn yr ysgol mae o’n ddisgybl B/C a byth yn trio’n galed iawn i gael marciau cymhedrol. Mi fydd hyn yn destun rhwystredigaeth i’w athrawon ond mae Llyr yn meddwl bod petha pwysicach na stydio.

SGRIPTIAU EFAN

Ioan

12 oed

Hen sinach bach slei, dan dîn ydi Ioan. Mae o’n hunanol ac wedi cael ei sbwylio. Mae o’n dipyn o fabi mam hefyd, ac mae ei habsenoldeb wedi cael effaith mawr, andwyol arno. Mae’n ei cholli hi’n ofnadwy ac yn methu cyfathrebu gyda’i dad i’r ‘run graddau ag yr oedd gyda’i fam. Mae’n edrych ymlaen at mynd i ymweld â’i fam er ei fod yn brofiad trawmatig iddo. Ar ôl dod adref wedi bod yn ymweld â hi, mae o’n cael cyfnodau hir o fod yn fewnblyg a distaw ac mae’n anodd i neb ei dynnu o’i gragen. Mae o’n agosach at ei frawd nag ydio at ei dad ac mae’n cyfri Efan yn dipyn o arwr.

Mae o’n treulio llawer o’i amser rhydd yn ei ystafell wely yn darllen, gwrando ar gerddoriaeth ac yn chwarae gêmau cyfrifiadurol. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ffuglen wyddonol. ‘Does ganddo fawr o ddiddordeb mewn chwaraeon, ond mae’n alluog yn academaidd ond yn ddi-daro a diog ynglŷn â chwblhau gwaith a gwaith cartref.

SGRIPTIAU IOAN

CANLLAWIAU AR GYFER Y CASTIO

  • Gofynnwn i chi ffilmio’r clyweliad ac mae’n debyg mai ffilmio ar ffôn sydd hawsaf. Sicrhewch bod digon o olau i ni allu eich gweld a’ch bod ddigon agos  fel y gallwn eich clywed yn iawn.
  • Byddwch angen person arall i ddarllen y golygfeydd hefo chi ond nid ydyn nhw i fod i’w gweld yn y clyweliad – yr ymgeisydd yn unig i fod o flaen y camera os gwelwch yn dda.
  • Cyn dechrau a wnewch chi gyflwyno eich hun gan roi eich ENW, OEDRAN, BLE RYDYCH YN BYW, DIDDORDEBAU. 
  • Mae tair golygfa i’w perfformio ar gyfer rhan Efan a dwy olygfa i’w perfformio ar gyfer rhan Ioan. Nid oes rhaid i chi eu dysgu ond da o beth i chi ymgyfarwyddo â nhw fel nad ydych yn darllen o hyd a ninnau methu gweld eich wyneb/llygaid yn iawn. Gofynnwn i chi berfformio’r golygfeydd perthnasol i chi yn unig h.y. Efan NEU Ioan 
  • Gofynnwn am UN enghraifft o bob golygfa yn unig. 
  • Fideos gorffenedig dim hirach na 5 munud os gwelwch yn dda.
  • Mae’r gwahoddiad yma yn agored i bawb, ac nid oes angen profiad blaenorol o fod wedi actio na pherfformio. Rydym hefyd yn agored i geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys unigolion ag anabledd, o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Yr Uwch- gynhyrchydd a Chynhyrchwyr Rownd a Rownd fydd yr unig rai â mynediad i’r cyfweliadau a byddan nhw’n eu gwylio a llunio rhestr fer.
  • Byddwn yn cysylltu â phawb i ddweud os yr ydych wedi gwneud y rhestr fer ai peidio. Peidwich â bod yn siomedig os na fyddwch ar y rhestr fer y tro hwn. Mae’n dda i ni weld wynebau newydd achos pwy â ŵyr beth a ddaw yn y dyfodol.
  • Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid ydym yn addo castio unrhyw unigolyn o blith y rhai fydd yn darparu fideos drwy’r broses yma – nid cystadleuaeth yw hon.

DEFNYDD Y FIDEOS

  • Bydd y cynhyrchwyr yn defnyddio’r fideos at bwrpas asesu perfformiadau yn unig.
  • Nid fydd y fideos yn cael eu defnyddio at unrhyw bwrpas arall a byddwn yn eu gwaredu / dileu wedi i’r Cynhyrchwyr gwblhau’r broses o gastio. Ni fyddwn yn darlledu, gosod ar wefannau na cyhoeddi’r fideos y byddwch yn eu danfon atom.
  • Am fwy o fanylion am bolisi preifatrwydd Rondo ewch i’n gwefan www.rondomedia.co.uk .

ANFON Y FIDEO

Gofynnwn i chi anfon eich fideo unai drwy WhatsApp neu  wetransfer.com gan eu bod yn ddau gyfrwng diogel iawn.

OS YDYCH O DAN 16 OED, BYDD RHAID I RIANT NEU WARCHEIDWAD ANFON Y FFEILIAU AR EICH RHAN, GAN HEFYD FOD YN GYSWLLT I NI.

Dull 1 – WhatsApp

1. Agorwch yr app WhatsApp

2. Pwyswch y symbol sgwrs newydd (blwch gyda phensil yn y gornel dde uchaf)

3. Cliciwch Cyswllt newydd

4. Teipiwch y rhif ac enwch y cyswllt ‘Rownd a Rownd’: 07444 291 742

5. Teipiwch Rownd a Rownd i’r bar chwilio a thapio ar y cyswllt

6. Anfonwch neges gan gynnwys eich enw llawn, eich oedran, y cymeriad rydych chi’n cyfweld ar ei gyfer ac e-bost cyswllt (cofiwch – os ydych chi o dan 16 oed, cyfeiriad e-bost rhiant neu warcheidwad fydd hwn)

7. Cliciwch ar y symbol ‘+’ wrth y bar testun ac anfonwch eich fideo

AGOR WHATSAPP

Dull 2 – wetransfer.com

1. Ewch i wetransfer.com

2. Cliciwch ar y ddolen ‘add your files’

3. Dewiswch fideo’r cyfweliad 

4. Teipiwch eich cyfeiriad e-bost yn y gofod ‘your email’ (cofiwch – os ydych chi o dan 16 oed, cyfeiriad e-bost rhiant neu warcheidwad fydd hwn)

5. Teipiwch castio@rondomedia.co.uk yn y blwch ‘email to’

6. Teipiwch eich enw llawn, eich oedran a’ch cyferiaid e-bost cyswllt yn y blwch ‘message’.

7. Cliciwch ‘transfer’ i anfon eich fideo clyweliad

wetransfer.com

Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach, peidwich ag oedi cysylltu.

RHAID DANFON EICH FIDEOS ERBYN 3PM, DYDD GWENER 9 EBRILL OS GWELWCH YN DDA. NI FYDDWN YN GALLU DERBYN CEISIADAU WEDI’R DYDDIAD A’R AMSER YMA. 

Mwynhewch y profiad a gadwn ni mewn cysylltiad,

Cynhyrchwyr Rownd a Rownd

castio@rondomedia.co.uk

01248 715001