Chwaraeon

Ein hadran chwaraeon fywiog yn Rondo yw’r grym creadigol y tu ôl i’r brand pêl-droed hirhoedlog, arobryn Sgorio ar gyfer S4C. Gyda thîm talentog ac angerddol, rydym yn cynhyrchu darllediadau wythnosol o bêl-droed domestig Cymru, gan ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel sy’n cysylltu’n ddwfn â chefnogwyr. Mae’r tîm yn ddigon hyblyg i gynhyrchu gemau byw o ffrydiau un camera i ddarllediadau llinol cymhleth, gyda arbenigedd mewn golygu cyflym ac uchafbwyntiau safonol.
Mae hefyd ganddon ni brofiad helaeth wrth gynhyrchu darllediadau o gemau rhyngwladol Cymru, gan gynnwys fel darlledwyr prif UEFA ar ran S4C, yn ogystal â gemau Cwpan FA Lloegr a gemau Ewropeaidd sy’n cyrraedd cynulleidfa eang yn y DU ac yn rhyngwladol.
Rydym wedi cynhyrchu rhaglenni chwaraeon eraill hefyd, o draws-seiclo i bêl-rwyd, gan ddarparu darllediadau o ansawdd uchel gyda chyffro a sylw i fanylion. Mae ein tîm yn grewyr cynnwys rhagorol, sy’n cynhyrchu cynnwys deniadol ac arloesol yn gyson, â’u cyrhaeddiad yn eang ar draws llwyfannau digidol a llinol.
Mae chwaraeon yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn yn Rondo, ac rydym yn falch o ddod ag angerdd, drama a chyffro pêl-droed Cymru i gynulleidfaoedd ledled y wlad a thu hwnt.
WREXHAM: HOLLYWOOD OR BUST

WREXHAM: HOLLYWOOD OR BUST

LEGENDS OF WELSH SPORT: NICKY GRIST

LEGENDS OF WELSH SPORT: NICKY GRIST

OUR LIVES : TWO SISTERS ONE GOAL

OUR LIVES : TWO SISTERS ONE GOAL

HILLSBOROUGH : YR HUNLLEF HIR

HILLSBOROUGH : YR HUNLLEF HIR

LEGENDS OF WELSH SPORT: NEVILLE SOUTHALL

LEGENDS OF WELSH SPORT: NEVILLE SOUTHALL

Seren Jones: Yn Fyw Yn Y Dŵr

Seren Jones: Yn Fyw Yn Y Dŵr