Galwad Agored – Castio Y Pump

Rydym ni’n chwilio am berfformwyr talentog, gydag oedran chwarae o 16, ar gyfer datblygiad Y Pump, drama eofn newydd wedi’i chreu gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. 

Noder bod yr alwad yma ar gyfer cyfnod datblygu a gweithdai Y Pump, wedi’i gefnogi gan y BFI, a ddim ar gyfer ffilmio’r gyfres ei hun.

Croesawn pob talent, gan annog ceisiadau gan berfformwyr ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli.

Y gyfres

Mae Y Pump yn ddrama i bobl ifanc wedi ei selio ar y gyfres arobryn o nofelau. Mae’n dilyn bywydau grŵp o ffrindiau dros gyfnod o flwyddyn ysgol yng ngogledd Cymru. Cawn ein tywys gan safbwyntiau Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat, gan gynnig golwg o’r newydd ar realiti bod yn berson ifanc ar yr ymylon yng Nghymru heddiw. Mae rhai o’r themâu mae Y Pump yn archwilio yn cynnwys hunaniaeth draws, bywyd Mwslemaidd yng Nghymru, salwch, hil, anabledd a rhywioldeb. Dyma fwy o wybodaeth am y gyfres gan un o’r awduron yn fan hyn!

Y 5 Rôl

Mae Tim yn un deg chwe mlwydd oed yn byw gydag awtistiaeth. Mae o’n onest, gyda chalon agored, yn sensitif, ac yn aml yn ymateb yn reddfol. Mae unrhyw newid yn gallu bod yn ormod iddo ond mae’n cael cysur wrth weld y byd drwy liwiau. Mae’n dod o gefndir dosbarth canol, ac yn byw gyda’i Fam, ei Dad a’i gi annwyl, Rex.

CAST

Mae Tami yn un deg chwe mlwydd oed ac yn uniaethu gyda’r term ‘anabl’. Mae hi’n siarp, yn sydyn ei thafod, yn ddoeth. Tami yw’r un sy’n brwydro mwyaf er mwyn dilysu ei lle o fewn Y Pump ac mae hi’n darganfod cysylltiadau sy’n berthnasol, ac yn deillio o’i phrofiadau o anabledd drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n byw gyda’i Mam, ei llys-dad a’i llys-frawd. Mae hi’n ddeurywiol.

CAST

Mae Aniq yn un deg chwe mlwydd oed gyda chefndir De Asiaidd ac mae hi’n Fwslim. Mae Aniq yn gynnes, yn dosturiol, yn sensitif ac yn barod i amddiffyn ei hunan. Mae darlunio yn rhoi cysur iddi. Mae hi a’i brawd wedi bod yn gofalu am eu tad ers marwolaeth eu mam.

CAST

Mae Robyn yn ferch draws un deg chwe mlwydd oed o deulu ble mae arian yn dynn. Mae Robyn yn freuddwydwraig, yn uchelgeisiol ac yn warchodol o’r rheiny sy’n agos ati. Hi ydi’r glud sy’n cadw Y Pump at ei gilydd.

Mae Cat yn berson hil-gymysg un deg chwe mlwydd oed, yn byw gyda salwch cronig. Mae hi’n danbaid, yn hyderus ac weithiau yn fyrbwyll. Hi yw clown y grŵp, yn darganfod dihangfa drwy hiwmor. Mae hi’n dod o deulu sy’n brwydro gyda chostau byw.

CAST

Beth rydym ni’n chwilio amdano?

Rydym ni’n chwilio am geisiadau gan berfformwyr sy’n gallu uniaethu gyda phrofiadau bywyd ein cymeriadau. Rydym ni’n benderfynol i gastio pobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli ar ein sgriniau ar hyn o bryd, yn enwedig pobl ethnig leiafrifol a phobl ag anableddau, fel caiff ei ddiffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n hynod o bwysig  ein bod ni’n cydweithio gyda phobl ifanc sy’n cysylltu gyda themâu Y Pump, gan ein bod ni’n edrych i ddatblygu’r gyfres yn ôl safbwyntiau pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn awyddus i glywed gan bobl ifanc sydd yn dod o Ogledd Cymru, neu sy’n byw yng ngogledd Cymru, gan mai dyma lle mae’r gyfres wedi’i gosod.

Dyddiadau pwysig

Dyddiad cau ar gyfer cais fideo: 9AM, Dydd Mawrth 2il Ionawr

Dyddiad Gweithdy Cychwynnol: Dydd Sadwrn 14eg Ionawr neu Dydd Sadwrn 21ain Ionawr, 2023

Lleoliad Gweithdy Cychwynnol: Un o stiwdios Rondo yng Ngogledd Cymru

Hygyrchedd a chynhwysiant

Byddwn ni’n llwyr gefnogi unrhyw anghenion ychwanegol unrhyw un sy’n ceisio am rôl. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech sgwrs anffurfiol am hyn, cysylltwch gydag Annes Wyn Williams o Rondo: annes.wyn@rondomedia.co.uk

Sut i ymgeisio

Cysylltwch ag Annes Wyn Williams yn Rondo, annes.wyn@rondomedia.co.uk i gael ffurflen gais. Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi ddweud wrthym pa gymeriad rydych chi’n uniaethu gyda nhw a pham rydych chi’n credu eich bod chi’n addas ar gyfer y cyfle yma. Yn dilyn eich cais, byddwn yn danfon y darn clyweliad ar gyfer eich cymeriad, ac yna gallwch recordio’ch hunain a’i yrru i mewn i ni. Mae’n rhaid i unrhyw fideo clyweliad a wneir gan berson dan 18 oed gael ei gyflwyno gan riant neu warcheidwad.

Defnydd fideos clyweliad

  • Yr Arweinydd Creadigol, y Cynhyrchydd Castio a Chynhyrchwyr Rondo fydd yr unig rai â mynediad i’r clyweliadau.
  • Bydd y cynhyrchwyr yn defnyddio’r clyweliadau at bwrpas asesu perfformiadau yn unig.
  • Ni fydd y clyweliadau yn cael eu defnyddio at unrhyw bwrpas arall a byddwn yn eu gwaredu / dileu wedi cwblhau’r broses o gastio. Ni fyddwn yn darlledu, cyhoeddi na gosod y fideos y byddwch yn eu danfon atom ar wefannau.

POB LWC!